ArthurJONES(1926-2019), Hafan Elan, Llanrug - Dymuna Dilys, Owen-Eilier, Ieuan a'u teuluoedd ddiolch o galon i staff ward Hebog Ysbyty Gwynedd, a ward Peblic, Eryri, am y gofal caredig a roddwyd i Arthur dros yr wythnosau diwethaf. Diolch arbennig i Dr Gwilym Pritchard a holl staff Meddygfa Waunfawr am eu gofal arbennig a chyson tra roedd Arthur yn wael. Hefyd diolch i'r parchedig Alan Wilcox am ei ymweliad cyson i'r cartref ac am arwain y gwasannaeth yn Llanddeiniolen, yn ogystal a Mr Martin a Austin Jones a Mrs Eurwen Darwood. Diolch hefyd i ffrindiau a theulu am y llu o gardiau a chydymdeimlad a'r rhoddion tuag at elusen 'Clefydd Siwgr Cymru' (£450). Yn olaf, diolch yn fawr i Meinir Griffith (o Dylan Griffith), am ei gwasannaeth arbennig a phersonol.
Keep me informed of updates